Thursday 4 April 2013

Hyfforddiant Mentora CILIP - Fflint - 29 Mai, 2013


[This posting advertises Mentor Training in Flint on 29 May 2013. An equivalent blog posting in English is available here]

Gweithdy undydd yn cael ei drefnu gan PTEG ar ran CILIP Cymru

Pwrpas y cwrs yma yw i roi cefndir i fentora a fframwaith sylfaenol ar gyfer mentora yn y tymor hir a’r tymor byr. Ffocws y diwrnod yw galluogi cyfranogwyr i ddatblygu’n effeithiol fel mentoriaid yng nghyd destun cynllun datblygu proffesiynol CILIP.

Mae Hyfforddiant Mentora yn angenrheidiol ar gyfer dod yn Fentor CILIP ac mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer pob aelod o CILIP sydd wedi cofrestru’n ddiweddar fel mentoriaid gyda CILIP neu sydd yn bwriadu cofrestru.

Erbyn diwedd y cwrs bydd cyfranogwyr:
·         Yn deall y weithred o fentora ym mhroses datblygu proffesiynol parhaus CILIP
·         Wedi cael cyfle i archwilio a phrofi mentora
·         Yn medru asesu eu gallu fel mentoriaid ac adnabod eu anghenion dysgu yn y maes

Hyfforddiant ar gyfer mentoriaid presennol CILIP

Gall aelodau sydd wedi mynychu cwrs sgiliau mentora yn barod fynychu sesiwn y prynhawn yn unig (14.00 – 16.30) i ymuno yn y rhan sy’n berthnasol I gynllun CILIP.

Hwyluswyr:  Linda Ferguson, Uned Llyfrgelloedd Gofal Iechyd Gogledd Cymru


Dyddiad: Dydd Mercher 29 Mai, 2013
Lleoliad: Canolfan Dysgwyr Llyfrgell Fflint, Stryd yr Eglwys, Fflint, CH6 5AP


COST:
Aelodau CILIP sy’n aelodau o CILIP Cymru  
Diwrnod llawn                                                                    Am ddim(Ω)
Hanner diwrnod ar gyfer diweddariad CILIP yn unig           Am ddim(Ω)                         

Fel arall

  • Aelodau PTEG                                      £20 (yn cynnwys TAW)
  • Rhai sydd ddim yn aelodau PTEG          £35 (yn cynnwys TAW)
  • (NEU £30 ( yn cynnwys TAW) os ydych yn ymuno gyda PTEG fel grwp CILIP ychwanegol am gost o £10)

  • Hanner diwrnod ar gyfer diwedadriad CILIP yn unig        £12.00 (yn cynnwys TAW)


(Ω) Mae CILIP Cymru yn rhoddi nawdd ariannol ar gyfer y cwrs er budd ein aelodau. Cafodd hyfforddiant mentora ei adnabod fel blaenoriaeth gan ein aelodau yn y Cyfarfod Blynyddol ym mis Tachwedd 2012. Mae aelodau CILIP Cymru yn byw a/neu weithio yng Nghymru. Mae aelodaeth o’r gangen yn awtomatig onibai fod aelod yn dewis cangen benodol.

Gall fod  cymorth ariannol ychwanegol ar gael i helpu aelodau CILIP Cymru gyda costau teithio neu lety o gronfa Kathleen Cooks.  

Polisi canslo

Ni fydd unrhyw gost am ganslo i fyny at 14 diwrnod cyn y cwrs. Bydd unrhyw un sydd yn canslo o fewn 14 diwnrod, neu ddim yn mynychu, yn gorfod talu y ffi llawn a gytunwyd. Yn ddibynnol ar amgylchiadau, gellid negodi i fynychu cwrs arall heb gost ychwanegol.


I archebu lle, neu am fwy o wybodaeth


Cwblhewch y ffurflen isod a’i dychwelyd i: stephen.gregory@cilip.org.uk

Cysylltwch gyda Stephen (Swyddog Polisi Cymru – Cyfnod Mamolaeth) ar y cyfeiriad e-bost uchod neu rif ffôn 07837 032536 am fwy o wybodaeth

Diddordeb i ymuno gyda PTEG – Grwp Personel, Hyfforddi ac Addysg CILIP?
Medrwch gael mwy o wybodaeth ar y wefan:
http://www.cilip.org.uk/specialinterestgroups/bysubject/personnel/
neu drwy e-bostio Gil Young  gil.young@nhs.net

*********************************************************

HYFFORDDIANT MENTORA CILIP – Fflint, 29 Mai 2013
FFURFLEN ARCHEBU


Enw:

Cyfeiriad e-bost:

Rhif ffôn:

Cyfeiriad:



(*)  dileer fel yn briodol
Hoffwn fynychu:
                                                                                                               
Diwrnod llawn Hyfforddiant Mentora                Ie / Na  (*)

Hyfforddiant mentor CILIP – prynhawn yn unig         Ie / Na  (*)


Yr wyf / nid wyf (*)  yn aelod o CILIP

Rhif aelodaeth CILIP: ..................................


COST

Aelodau CILIP Cymru yn unig                      Ie / Na  (*)
Yr wyf yn cadarnhau fy mod yn aelod o CILIP Cymru

Bydd y gost am y digwyddiad yma ar gyfer aelodau CILIP Cymru yn cael ei dalu gan gyllideb CILIP Cymru (ond sylwch ar y polisi canlso)

Eraill:
Nid wyf yn aelod o CILIP Cymru                  Ie / Na  (*)


A wnewch chi godi tâl fel a ddangosir isod

  • Aelod PTEG – diwrnod llawn       £20 (yn cynnwys TAW)       Ie / Na  (*)
  • Ddim yn aelod o PTEG                £35 (yn cynnwys TAW)                  Ie / Na  (*)
  • Rhai sydd am ymuno gyda PTEG, ac sydd ddim yn aelodau’n barod £30 (yn cynnwys TAW)                                  Ie / Na  (*)

Os oes angen talu am fod yn bresennol a wnewch chi roi enw a chyfeiriad ar gyfer anfonebu:



Rhif archeb pwrcas / cyfeirnod archeb (os oes angen)......................

Polisi canslo

Ni fydd unrhyw gost am ganslo i fyny at 14 diwrnod cyn y cwrs. Bydd unrhyw un sydd yn canslo o fewn 14 diwnrod, neu ddim yn mynychu, yn gorfod talu y ffi llawn a gytunwyd. Yn ddibynnol ar amgylchiadau, gellid negodi i fynychu cwrs arall heb gost ychwanegol.


No comments:

Post a Comment